DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Cyllideb Ddrafft 2026-27

DYDDIAD

3 Tachwedd 2025

GAN

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

 

Heddiw, mae Cyllideb Ddrafft Fanwl Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cael ei chyhoeddi. Mae'r Gyllideb hon yn buddsoddi dros £27bn yng Nghymru, sef £22.3bn o gyllid adnoddau, £3.6bn o gyllid cyfalaf ac £1.2bn o gyllid ardrethi annomestig i lywodraeth leol. Mae'n darparu mwy nag £800m o gyllid ychwanegol i adrannau Llywodraeth Cymru.

 

Wrth bennu'r cynlluniau gwario drafft hyn, mae'r Cabinet wedi adeiladu ar sylfeini 2025-26, pan gafodd Cyllideb Cymru gynnydd sylweddol mewn cyllid adnoddau a chyfalaf. Mae'r dyraniadau hyn wedi'u trosglwyddo ymlaen a chynyddwyd dyraniadau'r adrannau yn unol â'r rhagolygon chwyddiant yng ngham cyntaf y Gyllideb Ddrafft. 

 

Mae pob un o Ysgrifenyddion y Cabinet wedi gwneud penderfyniadau ynghylch sut y mae'r cynnydd chwyddiannol yn cael ei ddyrannu o fewn eu portffolios eu hunain. Mae Adroddiad y Gyllideb Ddrafft Fanwl yn esbonio'r penderfyniadau hynny, ac mae tablau manwl sy'n dangos y Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL) ar gyfer pob portffolio yn cael eu cyhoeddi heddiw hefyd.

 

Mae holl ddogfennau'r Gyllideb Ddrafft Fanwl ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

·                Adroddiad y Gyllideb Ddrafft Fanwl 2026-27

·                Tablau sy'n ategu'r cynlluniau gwario

·                Llinellau gwariant yn y gyllideb


Mae'r dogfennau ategol canlynol hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw:

 

·                Asesiad Effaith Integredig Strategol – Asesiad Interim

·                Dadansoddiad Dosbarthiadol o Wariant Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru 2026-2027

·                Cynllun Cyllid Seilwaith 2026 i 2027

·                Costau gweithredu deddfwriaeth

·                Ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaethol mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru

·                Cyllidebu ar Sail Rhywedd ar Waith - Dysgu o Gynlluniau Peilot yng Nghymru (2019–2024)